Capa

CANIADAU IBD

MELIN BAPUR
12 / 2025
9781917237710

Sinopse

'Henaint ni ddaw ei hunan,-daw ag och Gydag ef, a chwynfan,Ac anhunedd maith weithian,A huno maith yn y man.'Yn rhinwedd ei waith mewn meysydd academaidd, John Morris-Jones (1864-1929) yw un o ffigurau pwysicaf hanes llenyddiaeth Gymraeg, ac roedd yn rhan allweddol o?r 'dadeni' a welwyd mewn llenyddiaeth Gymraeg ar ddechrau?r ugeinfed ganrif.Er bod ei farddoniaeth yn llai adnabyddus na?i waith mewn meysydd eraill, roedd Caniadau, yr unig gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd, yn ddylanwadol iawn yn ei ddydd ac yn rhan allweddol o?i ymgyrch i wella safonau ieithyddol a barddonol ei gyd-Gymry. Mae?n cynnwys ei delynegion enwog fel Cwyn y Gwynt ynghyd â?i englynion a?i awdlau. Roedd hefyd yn gyfieithydd medrus a chynhyrchiol o farddoniaeth ieithoedd eraill ac mae?r rhain hefyd yn rhan bwysig o?r Caniadau, gan gynnwys telynegion Heinrich Heine a Phenillion Omar Khayyâm, enghraifft brin o gyfieithiad i?r Gymraeg o waith llenyddol o?r tu allan i Ewrop.